CYSTADLEUAETH CALENDR DIOGELWCH FFERMYDD CYMRU 2023

Mae gofyn i bob plentyn mewn ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig ledled Cymru greu negeseuon diogelwch fferm i’w cynnwys yn y calendr.

Mae’r gystadleuaeth yn agor dydd Llun 5 Medi 2022 ac yn cau dydd Gwener 21 Hydref 2022.

 

SUT I GYSTADLU

Gall disgyblion ysgolion cynradd (y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 1 a Chyfnod Allweddol 2) a disgyblion ysgolion arbennig drwy Gymru gyfan gymryd rhan yn y gystadleuaeth.

Mae’r gystadleuaeth yn dechrau ar ddydd Llun 5 Medi 2022 ac yn dod i ben ddydd Gwener 4 Tachwedd 2022

I gystadlu, dylai pob plentyn dynnu llun (e.e. â phensil, pin ysgrifennu, creon, pastelau ayyb), neu baentio llun i gyfleu un o’r negeseuon isod am ddiogelwch ar y fferm: Nodwch nad oes modd cyflwyno ffotograffau i’r gystadleuaeth.

  • Nid meysydd chwarae yw ffermydd
  • Mae teirw yn gallu lladd
  • Aros yn effro… neu cei di dy frifo
  • Perygl… tractoriaid a threlars ar waith
  • Cadwch draw o doeau
  • Edrych Allan ac i Fyny – Cadw Lygad am linellau pŵer uwchben
  • Paid dysgu diogelwch drwy ddamwain
  • Bydd ddiogel, cadw draw o’r siafft PTO
  • Bydd ddiogel, bydd weladwy!
  • Diogelwch – rhywbeth i’w gymryd o ddifrif
  • Dy iechyd, dy ddiogelwch, DY DDEWIS

Dylai lluniau fod yn rhai 2D (hynny yw, dylen nhw fod yn fflat), a rhaid eu cyflwyno ar ffurf tirlun ar bapur plaen maint A3 neu A4.

Gellir cyflwyno lluniau drwy ddefnyddio’r dulliau hyn:

Drwy e-bost: E-bostiwch ffotograffau neu sganiau eglur iawn (JPEG) o’r lluniau gwreiddiol i farm_safety_foundation@nfumutual.co.uk

Drwy’r Post: Yellow Wellies Calendar Competition

Farm Safety Foundation, Tiddington Road, Stratford-upon-Avon, CV37 7BJ

Rhaid cynnwys nodyn gyda phob llun sy’n cael ei gyflwyno, gan nodi enw, oedran ac ysgol gynradd y plentyn, a rhif ffôn rhiant/gwarchodwr neu oedolyn cyfrifol.

Bydd y panel beirniadu yn dewis 12 enillydd; bydd pob un ohonynt yn cael bag nwyddau Yellow Wellies, a bydd pob cais buddugol yn cael tudalen yn y calendr.

stephanie_berkeley_zl4u2oa9CYSTADLEUAETH CALENDR DIOGELWCH FFERMYDD CYMRU 2023